Hybu Cig Cymru (HCC) yw'r corff sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru. Rydym yn gweithio gyda phob sector o'r diwydiant cig coch yng Nghymru - o'r ffermwyr i'r archfarchnadoedd, i ddatblygu'r diwydiant ac i ddatblygu marchnadoedd proffidiol i Gig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc o Gymru.