Geiriadur Prifysgol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth SY23 3HH ,United Kingdom
Geiriadur Prifysgol Cymru Geiriadur Prifysgol Cymru is one of the popular Education located in Llyfrgell Genedlaethol Cymru , listed under Education in Aberystwyth , Organization in Aberystwyth ,

Contact Details & Working Hours

More about Geiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg.

Dechreuodd cynllun i baratoi'r Geiriadur ym 1920. Casglwyd dros 2.5 miliwn o enghreifftiau a dechrau golygu'r gwaith ddiwedd yr 1940au. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o 61 yn 1950, a'r olaf yn 2002.

Yn 2003 decreuwyd ailogygu'r Geiriadur gan ychwanegu llawer mwy o wybodaeth i bob erthygl. Yn 2010 penderfynwyd cyhoeddi'r Geiriadur ar lein.

Mae ar gael mewn print ac ar lein (http://gpc.cymru) ac fel apiau Android ac iOS (http://www.geiriadur.ac.uk/apiau-android-ac-ios/).

Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary.

Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf.

Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau.

Ychwanegir geiriau newydd at y Geiriadur yn barhaus. Hoffem glywed gennych drwy gpc@geiriadur.ac.uk am eiriau newydd ac am unrhyw wallau yn y gwaith.

Map of Geiriadur Prifysgol Cymru