Beth yw Eglwys Efengylaidd Aberystwyth?
Eglwys:
Er bod y gair ‘eglwys’ yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeilad arbennig yn y Testament Newwydd mae’r gair yn cyfeirio at bobl sy’n dod at ei gilydd am eu bod yn credu yn Iesu Grist fel Gwaredwr ac Arglwydd.
Efengylaidd:
Ystyr ‘efengyl’ yw ‘newyddion da’. Pobl y ‘newyddion da’ am Iesu Grist, felly, yw pobl ‘efengylaidd’ – pobl sy’n credu bod maddeuant pechodau, perthynas real â Duw, bywyd tragwyddol, ystyr newydd i fywyd, a llu o fendithion eraill i’w cael yn Iesu Grist.
Aberystwyth:
Rydym yn falch o gydnabod ein perthynas â Christnogion eraill ledled Cymru a thrwy’r byd. Ond ein dymniad yw addoli a gwasanaethu’r Arglwydd Iesu Grist yma yn Aberystwyth a’r cylch, a hynny drwy’r Gymraeg.