Mae Amgueddfa Ceredigion yn sefydliad bywiog a chroesawgar. Mae'r arddangosfeydd parhaol yn ystyriol ac yn ymgais i ddyfnhau dealltwriaeth o hanes a diwylliant y sir i gymuned Ceredigion a'i hymwelwyr.
Mae gan yr amgueddfa raglen fywiog o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd dros dro, ochr yn ochr ag arddangosfeydd parhaol. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein tudalen “Beth Sy’n Digwydd”.
Un o brif ddibenion yr Amgueddfa yw sicrhau fod ei chasgliad yn hygyrch ac ar gael i’w weld gan aelodau'r cyhoedd. Cyflawnir hyn drwy gasglu, dogfennu, diogelu a dehongli tystiolaeth berthnasol o orffennol Ceredigion ar gyfer y gymuned a wasanaethir gennym.
Cynhelir yr Amgueddfa gan Gyngor Sir Ceredigion.
____________
Ceredigion Museum is a living mediator between the past and present. We aim to relfect the history of the county through material evidence.
A temporary exhibition programme of artefacts and art from Ceredigion, and around the world, are displayed throughout the year.
The museum reflects the local cultural life of Ceredigion and has branch exhibition spaces in many of its towns and villages.
Stay up to date with news of exhibitions and events by signing up for our newsletter here: http://eepurl.com/08Diz